Zechariah 4

Gweledigaeth 5 – Y Menora

1Wedyn dyma'r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn dod yn ôl a'm hysgwyd, fel petai'n deffro rhywun oedd wedi bod yn cysgu. 2Gofynnodd i mi, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Menora
4:2 Menora Stand i ddal lampau, neu ganhwyllbren saith cangen fel yr un oedd yn y Tabernacl a'r Deml (gw. Exodus 25:30-36)
o aur pur, gyda powlen ar y top a saith lamp arni, a saith sianel yn rhedeg iddyn nhw.
3Ac roedd dwy goeden olewydd wrth ei hymyl – un bob ochr i'r powlen.”

4A dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r rhain, syr?”
4:4 “Beth ydy'r rhain, syr?” Mae'r ateb yn cael ei roi yn adn.10b-14
5“Wyt ti wir ddim yn gwybod?” meddai'r angel. “Nac ydw, syr,” meddwn innau.

6Yna dwedodd wrtho i, “Dyma neges yr Arglwydd i Serwbabel
4:6 Serwbabel Llywodraethwr Jwda (gw. Haggai 1:1).
,
d: ‘Nid grym na chryfder sy'n llwyddo, ond fy Ysbryd i.’ Ie, dyna mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud.
7Fyddi di fynydd mawr yn ddim rhwystr i Serwbabel! Byddi fel tir gwastad! Bydd e'n dod â'r garreg olaf i'w gosod yn ei lle, i sŵn gweiddi, ‘Mae'n hyfryd! Mae'n hyfryd!’”

8Yna dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 9“Serwbabel wnaeth osod sylfaeni y deml yma, a bydd e'n gorffen y gwaith.” Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r Arglwydd holl-bwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. 10“Pwy wnaeth ddirmygu'r dechreuadau bach? Byddwch yn dathlu wrth weld y garreg â'r plât tin arni yn llaw Serwbabel! Felly mae'r saith lamp yn cynrychioli llygaid yr Arglwydd, sy'n gwylio popeth sy'n digwydd ar wyneb y ddaear.”

11A dyma fi'n gofyn i'r angel, “Beth ydy ystyr y ddwy goeden olewydd, un bob ochr i'r menora?” 12A gofynnais hefyd, “Beth ydy ystyr y ddau estyniad i'r coed olewydd sy'n tywallt olew euraid i'r sianeli?”

13“Wyt ti wir ddim yn gwybod beth ydyn nhw?” meddai. “Nac ydw, syr,” meddwn innau. 14A dyma fe'n dweud, “Maen nhw'n cynrychioli'r ddau ddyn sydd wedi eu heneinio i wasanaethu Duw, Meistr y ddaear gyfan.”

Copyright information for CYM